Annwyl Jeremy Miles,
Diolch am gyfarfod gyda ni yn ddiweddar i drafod y
Bil Addysg Gymraeg, sut y byddwch chi a Lynne Neagle yn
rhannu’ch cyfrifoldebau yn y Cabinet ar ei newydd wedd,
ynghyd â materion eraill.
Fel soniwyd yn y cyfarfod, rydym yn falch ac yn gwerthfawrogi eich
bod yn parhau yn gyfrifol am drywydd y Bil Addysg Gymraeg,
sy’n sicrhau cysondeb wrth symud ymlaen yn ogystal â
chadw eich profiad, arbenigedd a brwdfrydedd. Rydym hefyd yn
gwerthfawrogi eich ymrwymiad yn y cyfarfod i gyflwyno’r Bil
Addysg Gymraeg cyn toriad yr haf y Senedd yng Ngorffennaf
eleni.
Er hynny, rydym yn pryderu am eich sylw na fydd y targed bod 50% o blant Cymru mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 yn statudol, ac y bydd yn darged ar gyfer y "taflwybr mwyaf uchelgeisiol" yn unig.
Fe fyddwch yn deall ein pryderon y bydd y targed hwn - fel targedau blaenorol y Llywodraeth - yn cael ei fethu os na fydd ymrwymiad cyfreithiol ar Lywodraeth Cymru dros y 25 mlynedd nesaf i gyllido a chynllunio’r cynnydd sy’n rhaid ei weld erbyn 2050.
Os yw’r Llywodraeth wir am sicrhau bod “pob disgybl yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol” fel sydd ar flaen Papur Gwyn y Bil Addysg Gymraeg, rhaid creu amodau a chynllunio ar gyfer cynnydd sylweddol yn y nifer o blant sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg, trwy dargedau statudol yn genedlaethol ac ar awdurdodau lleol. Byddwn ni’n parhau i bwyso am hynny yn ystod proses craffu’r Bil.
Yn y cyfarfod, roedden ni’n gytûn mai’r ddelfryd ar gyfer dysgu ac asesu’r Gymraeg yn ein hysgolion yw un continwwm, sy’n gosod cyrhaeddiad pobl ifanc Cymru ar gymhwyster unedig. Mae hyn yn hefyd adlewyrchu barn gyhoeddus. Yn ôl y data yn yr adroddiad yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, mae 93% o sefydliadau 59% o unigolion o blaid creu un continwwm. Yn groes i’r awgrym yn y cyfarfod, ni chyfeiriodd un ymateb a oedd yn gwrthwynebu un continwwm at y gweithlu fel rheswm dros beidio cyflwyno un cwricwlwm dysgu ac asesu TGAU Cymraeg, ac nid oedd yr un ymateb yn gwrthwynebu’r egwyddor o greu un continwwm. Mae cefnogaeth cyn gryfed dros sefydlu un continwwm yn awgrymu bod angen symud yn ddiymdroi i sicrhau un continwwm dysgu ac asesu, a chyfle cyfartal i bob disgybl yng Nghymru i ddysgu’r Gymraeg. Croesawn eich awgrym yn ystod y cyfarfod y dylid gweithredu ar yr argymhelliad yma.
Fodd bynnag, yn groes i’r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod, rydym o’r farn bod modd cyrraedd y ddelfryd honno wrth ddiwygio cwricwlwm yn 2027, yn hytrach nag aros nes 2032. O sefydlu gweithgor o athrawon ac arbenigwyr yn y chwech i naw mis nesa, gallai gyflwyno cynlluniau posibl ar gyfer creu un continwwm yn gynnar yn 2025. Byddai modd cynnal ymgynghoriad a threialu’r argymhellion yn 2025-26 fel bod modd eu gweithredu yn llawn yn 2027. Fe gasglodd adroddiad Sioned Davies ‘Un Iaith i Bawb’ yn 2013 fod hyn yn bosib yn academaidd, wedi ymgynghoriad llawn gydag athrawon, rhieni, pobl ifanc ac arbenigwyr:
“Dylid ystyried datblygu dyfarniad deuol lle y byddai disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn cael gradd ychwanegol i ddangos y radd gymharol y byddent wedi’i hennill mewn arholiad Cymraeg (iaith gyntaf). Yn ogystal â helpu cyflogwyr i ddeall y gwahaniaeth mewn lefelau sgiliau Cymraeg, gallai ategu nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod dysgwyr sydd wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd yn parhau i ddatblygu ar ôl trosglwyddo i ysgol uwchradd.”
Un Iaith i Bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4(Llywodraeth Cymru: 2013), t. 30.
Mae hon felly yn amserlen ymarferol y gellid ei gweithredu os yw’r ewyllys yno. Mae’n hollol annerbyniol cael parhad o drefn lle nad oes gorgyffwrdd rhwng y ddau asesiad Cymraeg TGAU fel sydd ar hyn o bryd.
Y nod ar gyfer y tymor byr yw datganiad cyhoeddus prydlon ar amserlen a chynllun gwaith ar gyfer creu un continwwm ac un llwybr asesu er mwyn codi disgwyliadau ac fel gall pob un disgybl gael y cyfle i gyrraedd y safonau uchaf. Fe sonioch chi yn y cyfarfod y byddech yn cysylltu â phwyso ar Gymwysterau Cymru am ddatganiad am amserlen gyhoeddus ar gyfer dechrau’r gwaith cynllunio ar gyfer hynny. Rydym yn gobeithio, ac yn wir disgwyl, am gyhoeddiad buan parthed hynny. Yn ôl ein gwaith ymchwil, mae 142,351 o blant wedi derbyn gradd TGAU Cymraeg Ail Iaith ers cyhoeddi adroddiad Sioned Davies yn 2013, ac o ganlyniad wedi'u hamddifadu o'r cyfle i ddysgu Cymraeg yn hyderus. Byddai oedi pellach yn golygu bod mwy a mwy o blant yn colli’u sgiliau Cymraeg trwy’r system addysg.
Edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb, a gobeithio y gallwn ni
gyfarfod eto yn y dyfodol.
Byddwn yn anfon copi o’r llythyr yma i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, er gwybodaeth.
Yn gywir
Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr
Iaith
Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith
Mabli Siriol, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith